Ystyried rôl Penrhyn a Chymru mewn caethwasiaeth trawsatlantig ym mhennod dau o Podlediad Penrhyn.

Map mawr o ystadau Dinbych a Clarendon yn Jamaica. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Mae’r bennod hon yn dipyn o agoriad llygad wrth i Kayla Jones archwilio cysylltiad Penrhyn â’r fasnach gaethweision yn y 18fed-19eg ganrif. Wedi’i recordio yn ystod anterth y mudiad Black Lives Matter yn 2020, mae’r bennod hon yn tynnu sylw at un o lawer o safleoedd treftadaeth ledled y DU sydd wedi bod yn edrych ychydig yn agosach ar eu cysylltiadau trefedigaethol, yn cynnwys Castell Penrhyn, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng ngogledd orllewin Cymru.

Ymunwch â Kayla wrth iddi ddysgu am blanhigfeydd siwgr y teulu Pennant yn Jamaica, cyn berchnogion stad y Penrhyn. Roedd Richard Pennant a’i ail gefnder, George Hay Dawkins, yn landlordiaid absennol yn Jamaica, yn rheoli eu planhigfeydd o bell, gan ddefnyddio’r elw i ariannu mentrau yng Nghymru, yn fwyaf nodedig Chwarel y Penrhyn, a fu unwaith y chwarel lechi fwyaf yn y byd.

Caethwasiaeth Cymru gan Dr Chris Evans.

Er bod Jamaica filoedd o filltiroedd i ffwrdd o ogledd Cymru, mae eu straeon wedi'u cydblethu'n rhyfedd

Un o rannau mwyaf syfrdanol y bennod oedd darganfod sut y chwaraeodd Cymru ran yn y fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd a chymaint o ran oedd gan gaethwasiaeth yng nghymdeithas ac economi Prydain yn y 19eg ganrif. Siaradodd Kayla â Dr Chris Evans, awdur y llyfr Slave Wales sy’n dangos sut y chwaraeodd Cymru ran weithredol yn nhwf caethwasiaeth ledled y byd, a sut y bu i ddiwydiannau Cymreig megis mwyngloddio copr a melinau gwlân helpu i gynnal y fasnach gaethweision mewn ffyrdd annisgwyl.

I ddarllen llyfr Chris Evans Slave Wales, ewch i’r fan hyn.

I'r rhai sy'n dymuno archwilio systemau planhigfeydd a realiti llym bywyd caethweision yn Jamaica, mae Dr Evans yn argymell llyfr yr Athro Trevor Burnard Mastery, Tyranny, and Desire, sy’n edrych ar ddyddiadur perchennog planhigfa, Thomas Thistlewood.

Dr Marian Gwyn yn cyflwyno ar stad y Penrhyn. Diolch i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru

Mae'r bennod hon hefyd yn cynnwys Dr Marian Gwyn, sy'n ymgynghorydd ac ymchwilydd treftadaeth, y mae ei gwaith yn arbenigo yn y ffyrdd y gall sefydliadau treftadaeth rannu eu cysylltiadau â gwladychiaeth. Daeth planhigfeydd i feddiant y teulu Pennant yn Jamaica pan aeth Gifford Pennant drosodd fel milwr ym Myddin Cromwell yn 1656. Prynodd ef diroedd helaeth yn India'r Gorllewin. Yn y pen draw, daeth y teulu yn gynhyrchydd siwgr câns mawr yn ardal Clarendon.

Cododd y teulu hefyd mewn safle cymdeithasol yn Jamaica, pan ddaeth mab Gifford Pennant, Edward, yn Brif Ustus Jamaica. Yna cafodd Edward ddau fab, Samuel, a ddaeth yn Arglwydd Faer Llundain, a John a oedd yn fasnachwr adnabyddus ag India'r Gorllewin wedi'i leoli yn Lerpwl. Yn y diwedd, dychwelodd y teulu i'r DU, gan weithredu fel landlordiaid absennol tra bod gweithrediadau dydd i ddydd y planhigfeydd yn cael eu gadael i asiantau. Roedd yr arian a wnaed o gynhyrchu siwgr yn Jamaica yn caniatáu i John Pennant brynu hanner yr hyn a elwid yn stad y Penrhyn. Prynodd ei fab, Richard Pennant, hanner arall y stad trwy briodas fanteisiol ag Anne Susannah Warburton yn 1765. Daeth Richard Pennant yr Arglwydd Penrhyn cyntaf, ac fel AS dros Lerpwl roedd yn gefnogwr di-flewyn-ar-dafod i hawliau perchnogion caethweision yn y DU. Caniataodd ei ffortiwn cynyddol iddo ddatblygu stad y Penrhyn, ac adeiladodd ffyrdd, tai, ysgolion, adeiladau amaethyddol a dechreuodd ddatblygu’r chwarel lechi.

Digwyddiad yn Archifau a Chasgliadau Arbennig ym Mhrifysgol Bangor yn archwilio cysylltiad Penrhyn â Jamaica. Diolch i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru

Tynnodd Dr Gwyn sylw at erchyllterau bywyd yn Jamaica i’r caethweision, gan sôn am amodau gwaith a byw llym a chyfraddau marwolaeth uchel gweithwyr caethiwus Jamaica a oedd yn gweithio ar Blanhigfeydd Pennant ar y pryd. Er nad oes llawer o wybodaeth am yr unigolion a fu’n llafurio ar blanhigfeydd Pennant, bu Dr Gwyn yn siarad â Kayla am yr hyn a ddarganfuwyd ganddi ym mhapurau’r Penrhyn yn Archifau Prifysgol Bangor. Mae yna ewyllysiau, rhestrau eiddo, mapiau, a llythyrau yn ogystal â rhestrau stoc blynyddol sy'n rhoi enwau, oedrannau ac asesiadau iechyd y gweithwyr caethiwus ar y planhigfeydd. Roedd llythyrau’n cael eu hanfon yn ôl ac ymlaen rhwng Richard Pennant a'i asiantau, sy'n sôn am wrthryfeloedd a salwch ymhlith y caethweision a’r tywydd annioddefol yn Jamaica. Trwy ei hymchwil, canfu Dr Gwyn y byddai tua 30 y cant o gaethweision yn rhy sâl i weithio ar unrhyw adeg benodol.

Paentiad o Richard Pennant gan Henry Thompson, tua 1800. Cyrchwyd trwy Wikimedia Commons, ar gael gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn 2007, bu Dr Gwyn yn bennaeth ar y prosiect ‘Siwgr a Llechi’ yng Nghastell Penrhyn, sef arddangosfa arbennig a rhaglen o ddigwyddiadau a oedd yn archwilio cysylltiad Penrhyn â chaethwasiaeth yn ystod Daucanmlwyddiant Deddf 1807 i ddiddymu’r Fasnach Gaethweision. Ar gyfer y prosiect, daeth gwirfoddolwyr lleol i'r archifau i edrych trwy ddogfennau sy'n gysylltiedig â phlanhigfeydd Jamaica. Ysgrifennodd y gwirfoddolwyr eu canfyddiadau fel rhan o’r arddangosfa, a oedd yn amlygu pa mor gydgysylltiedig oedd y fasnach gaethweision i fywyd yn y DU yn y 18fed ganrif, ac i ddatblygiad ystâd y Penrhyn. Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys plant ysgol o 'Driongl Penrhyn': gogledd Cymru, Lerpwl, a Jamaica. Creodd y myfyrwyr waith celf, straeon a barddoniaeth ar arteffactau sy'n gysylltiedig â'r diwydiant caethweision.

I edrych trwy gyn-arddangosfeydd, llyfrynnau ac arteffactau'r Prosiect Siwgr a Llechi, ewch yma.

“Felly heb gaethwasiaeth i fod yn sail i’r sefydliadau hyn, yna ni fyddai’r chwyldro diwydiannol wedi digwydd mor gyflym ag y gwnaeth ym Mhrydain. Erbyn hyn mae’n rhaid iddo fod yn rhan o’r stori, ond nid fel stori ychwanegol.”
— Dr Marian Gwyn

Siaradodd Kayla hefyd ag Eleanor Harding, a arferai fod yn Guradur Cynorthwyol Cymru yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghastell Penrhyn a soniodd am arddangosfeydd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol, a digwyddiadau yng Nghastell Penrhyn oedd yn canolbwyntio ar blanhigfeydd y Penrhyn yn Jamaica.

Yr unig gynrychiolaeth weledol o’r planhigfeydd yn y Castell yw dau ddarlun a gomisiynwyd gan y teulu yng nghanol yr 1800au ar ôl diwedd y fasnach gaethweision ym Mhrydain. Nid oes llawer yn hysbys am y paentiadau heblaw eu bod yn fersiwn hynod arddulliedig, ramantus o'r planhigfeydd, gyda lliwiau llachar a darluniau o ychydig o lafurwyr yn gweithio'n hamddenol yn y caeau. Mae'r paentiadau o'r planhigfeydd y sonnir amdanynt yn y podlediad yn cael sylw ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn 2020, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol adroddiad ar gysylltiad llawer o'i safleoedd â chaethwasiaeth trawsatlantig a gwladychiaeth. Mae’r adroddiad yn rhoi tystiolaeth eang o safleoedd treftadaeth ledled y DU sydd â chysylltiadau â’r fasnach gaethweision ar hyd a lled y byd. Ewch i'w gwefan i ddarllen yr adroddiad, o'r enw Mynd i'r afael â'n hanes o wladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol.

“Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am leoedd a chasgliadau ar ran y genedl, ac mae gan lawer ohonynt gysylltiadau uniongyrchol ac anuniongyrchol â gwladychiaeth a chaethwasiaeth hanesyddol. Rydym wedi rhyddhau adroddiad yn edrych ar y cysylltiadau hyn fel rhan o’n hymrwymiad ehangach i sicrhau bod y cysylltiadau yma yn cael eu cynrychioli, eu rhannu a’u dehongli’n briodol. Mae’r adeiladau yn ein gofal yn adlewyrchu llawer o wahanol gyfnodau ac ystod o hanesion Prydeinig a byd-eang - cymdeithasol, diwydiannol, gwleidyddol a diwylliannol. Fel elusen dreftadaeth, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau ein bod yn hanesyddol gywir ac yn gadarn yn academaidd pan fyddwn yn cyfathrebu am y lleoedd a’r casgliadau sydd yn ein gofal”.
— Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Darluniau o adeiladau a arferai sefyll ar y planhigfeydd yn Jamaica. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Yn y bennod, mae Eleanor yn sôn am arddangosfa yn 2020 a 2021 o'r enw Am Fyd! a oedd yn arddangos casgliad o gysylltiadau Penrhyn â gwladychiaeth a'r fasnach gaethweision ar draws yr Iwerydd. Wedi'u hysbrydoli gan grŵp o blant lleol, cyflwynwyd y gwrthrychau a oedd yn cael eu harddangos yn seiliedig ar brofiad y plant gyda'r gwrthrychau. Yna arddangoswyd cerddi'r myfyrwyr drwy'r castell ochr yn ochr â'r gwrthrychau, a heriwyd ymwelwyr i edrych ar y gwrthrychau hyn mewn goleuni newydd.

I weld mwy am yr arddangosfa, ewch i Dudalen yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yn olaf, mae Kayla yn cyfeirio at raglen deledu S4C Trysorau Cymru: Tir, Tai a Chyfrinachau sef cyfres chwe rhan yn edrych ar blastai yng Nghymru fel Penrhyn, Castell Powys, Tŷ Tredegar, Castell y Waun a Phlas Newydd. Y digrifwr Tudur Owen sy’n cyflwyno’r rhaglen ac mae’n ymchwilio i straeon cudd a hanesion anghyfforddus sy’n gysylltiedig â phlastai amlwg ledled Cymru. Cliciwch yma i ddysgu mwy am y rhaglen.

Er bod hanes Penrhyn yn gymhleth, ac yn aml yn anodd dysgu amdano, mae mor bwysig tynnu sylw at ei gysylltiad â'r fasnach gaethweision. Mae Podlediad Penrhyn yn un rhan fach o’r ymchwil a’r gwaith sy’n cael ei wneud ynghylch caethwasiaeth a’i gysylltiad â gogledd Cymru. Gallwch ddysgu mwy am ymchwil Kayla trwy wefan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Prifysgol Bangor.