Archwilio Bywyd Yng Nghastell Penrhyn

Gwedd allanol Castell Penrhyn.

Croeso i’r drydedd bennod o Podlediad Penrhyn. Yn y bennod hon, mae Kayla yn archwilio bywyd ym Mhenrhyn, o adeiladu’r castell, bywyd y gweision a’r morynion, gweithrediad y stad a bywydau’r teuluoedd oedd yn byw ac yn gweithio ar ffermydd y tenantiaid. Plasty gwledig Neo-Normanaidd wedi'i leoli ger Bangor yng ngogledd orllewin Cymru yw Castell Penrhyn . Adeiladwyd Castell Penrhyn ar gyfer yr Arglwydd Penrhyn ym 1822-37, ar safle tai bonedd cynharach, a bu’n ganolfan grym pwysig i’r teulu Pennant tan y 1950au.

Yn y ddwy bennod gyntaf, bu Kayla yn edrych ar ddechreuadau’r ystâd, o’i pherchnogion canoloesol, y teuluoedd Gruffydd a Williams i’r Pennantiaid yn y 18fed-20fed ganrif. Roedd y bennod flaenorol yn edrych ar sut y daeth planhigfeydd Jamaica a oedd yn eiddo i deulu Pennant â chyfoeth sylweddol i ogledd Cymru, cyfoeth a fuddsoddodd y teulu wedyn yn y diwydiant llechi, yr ystâd, ac adeiladu castell ysblennydd.

Ym mhennod tri, mae Kayla yn siarad â Richard Pennington, Rheolwr Tŷ a Chasgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghastell Penrhyn ers dros 20 mlynedd, am bensaernïaeth unigryw Penrhyn a bywyd yn y plasty. Mae hi hefyd yn siarad ag Ann Dolben, gwirfoddolwr hirdymor yn y castell sydd â gwybodaeth helaeth am gasgliad celf a pherchnogion y tŷ. I ddysgu mwy am Gastell Penrhyn, eu harddangosfeydd a’r digwyddiadau diweddaraf, ewch i Wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Penrhyn dan Richard Pennant

Mae Richard Pennant yn adnabyddus am ehangu stad y Penrhyn trwy brynu tir ychwanegol yn yr ardal a thrawsnewid rhannau o’r tir ar gyfer defnydd amaethyddol a diwydiannol. Etifeddodd Richard ran o’r ystâd trwy ei briodas ag Anne Warburton ac aeth ymlaen i brynu cyfranddaliadau ychwanegol o’r elw a gafwyd o’i blanhigfeydd siwgr yn Jamaica.

Darlun o fwthyn a godwyd wrth i Richard Pennant wella stad y Penrhyn. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Plannwyd tua 600,000 o goed ar y stad, yn ogystal â chnydau fel bresych a maip, a chodwyd ffermydd a thai ar gyfer gweithwyr lleol, gan ddod â mwy o gyflogaeth i’r ardal. Yn wreiddiol roedd tŷ canoloesol ym Mhenrhyn y dechreuodd Richard Pennant ei foderneiddio; er hynny ychydig sydd ar ôl o'r adeilad hwnnw heddiw. Ei etifedd, perthynas pell o'r enw George Hay Dawkins Pennant, fyddai'n adeiladu'r castell cywrain sy'n sefyll ar y stad heddiw.

Datblygodd Borth Penrhyn, adeiladodd reilffyrdd, a buddsoddodd mewn gwelliannau amaethyddol. Tra bu chwarela ar raddfa fechan ar stad y Penrhyn ers blynyddoedd, Richard Pennant a ddechreuodd ddatblygu’r chwareli llechi ar ei stad yn fenter oedd yn tyfu.

Adeiladu Castell Penrhyn

Gwedd allanol Castell Penrhyn.

Roedd George Hay Dawkins Pennant eisiau castell mawreddog ar i ystâd gynyddol a chyflogodd y pensaer Thomas Hopper i ddylunio ac adeiladu’r strwythur anferth o 1822-37. Erbyn hyn, roedd yr ystâd wedi tyfu’n aruthrol o’r amser yr oedd Richard yn berchen arni, ac roedd George Hay Dawkins Pennant yn dymuno adeiladu cartref a oedd yn adlewyrchu ei statws fel tirfeddiannwr mawr gyda dros 70,000 o erwau o dir.

Mae prosiectau eraill Thomas Hopper yn cynnwys Castell Gosford, Englefield House, Kentwell Hall a'r tŷ gwydr yn Carlton House ac yn aml roeddent yn ddyluniadau a oedd yn efelychu arddulliau canoloesol. Dewisodd y pensaer arddull Neo-Normanaidd ar gyfer Castell Penrhyn, a’r bwriad oedd i wedd allanol yr adeilad edrych fel castell amddiffynadwy sydd wedi sefyll yng ngogledd Cymru ers canrifoedd, ynghyd â nodweddion fel tyredau, tŵr, a gorthwr. Hefyd gosododd Hopper ffenestri gwydr lliw cywrain a rhoi goleuadau mawr, brawychus yn y neuadd fawr.

Drwyddi draw, cymerodd y tŷ tua phymtheg mlynedd i'w orffen a chostiodd tua £150,000 i'w adeiladu, tua £49,500,000 yn arian heddiw.

Tu Mewn i'r Castell

Ystafell wely yng Nghastell Penrhyn. Cyrchwyd trwy Comin Wikimedia llun gan Andrew Mcmillan.

Aeth yr Arglwydd Penrhyn a'i bensaer Thomas Hooper i drafferth mawr i wneud tu mewn y castell yr un mor fawreddog â'r tu allan. Mae nenfydau yn y neuadd fawr, y parlwr, y capel a’r llyfrgell wedi’u dylunio mewn bwâu plastr cymhleth sy’n dal y llygad ble bynnag yr edrychwch. Gwnaeth crefftwyr lleol ddarnau unigryw fel gwely llechen mawr a bwrdd biliards ac maent yn dal i gael eu harddangos yn y tŷ heddiw.

Dyluniwyd dodrefn, lleoedd tân, drysau a fframiau drychau gan Thomas Hopper i ddod ag ymdeimlad o ysblander a threftadaeth ledled y castell. Y grisiau mawreddog yw un o'r prif ganolbwyntiau yn y castell ac maent yn dangos dylanwad celf Arabaidd a wynebau cerfiedig uwchben drysau.

Gyda gorthwr, ffenestri lliw, a cholofnfeydd roedd y tu mewn hefyd i fod i gyfleu’r teimlad bod y castell wedi'i adeiladu yn oes y Normaniaid. Fodd bynnag, roedd llawer o'r dodrefn a'r addurniadau yn nodweddiadol o blasty Fictoraidd, gyda phapur wal wedi'i ysbrydoli gan Asia, llyfrgell helaeth a pharlyrau ac ystafelloedd bwyta mawr i wneud argraff ar y gwesteion oedd yn dod i mewn.

Casgliad Celf Penrhyn

Portread o Catrina Hooghsaet gan Rembrandt, caffaelwyd gan deulu Douglas Pennant yn 1860. Cyrchwyd trwy Wikimedia Commons, ar gael gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Roedd yr Arglwydd Penrhyn a'i ferch Alice yn frwd dros gelf, ac erbyn ei farwolaeth ym 1886, roedd yr Arglwydd Penrhyn wedi hel casgliad helaeth o baentiadau a cherfluniau sy'n cael eu harddangos drwy’r castell. Lluniodd Alice gatalog manwl o'r casgliad, a oedd yn cynnwys gwaith celf gan Van Der Veer, Thomas Gainsborough, Diego Ortez, a Van Dyck. Arddangosir portreadau o genedlaethau teulu’r Pennant yn yr ystafell fwyta, yn ogystal â phaentiadau o deulu Williams, perchnogion modern cynnar Penrhyn a gafodd sylw ym mhennod un.

Comisiynwyd paentiadau o’r chwarel yn 1832, yn rhoi cipolwg ar lethrau serth y gwelyau llechi yn ystod y cyfnod, a’r gwaith peryglus i’r chwarelwyr, a welir yn hongian ar raffau ar hyd a lled y chwarel. Mae paentiad arall yn darlunio ymweliad y Frenhines Fictoria â’r Castell ym 1859, yn anterth y diwydiant llechi yng Nghymru.

Yn 2021, bu’r arddangosfa Am Fyd yn archwilio rhywfaint o'r gwaith celf a'r gwrthrychau sydd i’w gweld ledled Castell Penrhyn trwy farddoniaeth plant o ysgolion lleol ym Mangor a Bethesda. Roedd darluniau o blanhigfeydd siwgr Penrhyn ac adar egsotig tacsidermaidd, pob un yn gysylltiedig â chaethwasiaeth drawsiwerydd neu'r Ymerodraeth, ar hyd y tŷ ochr yn ochr â barddoniaeth a ysgrifennwyd am eu hymateb i'r gwrthrychau. I ddysgu mwy am Am Fyd, edrychwch ar yr arddangosyn ar  wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, neu gwyliwch y fideo isod.


Gweithio yng Nghastell Penrhyn

Staff stad y Penrhyn, 1896. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Roedd gweithio yng Nghastell Penrhyn yn waith prysur, gydag oriau gwaith hir i weision a morynion yn y 1900au cynnar. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gofnodion am weithwyr fel cogyddion, howsgiper, morynion a gweision lifrai a oedd yn gweithio yn y castell. Siaradodd Richard â Kayla am sut y byddai’r tŷ wedi gweithio gyda thair ar hugain o forynion tŷ, staff cegin a golchdy ac un ar ddeg o staff gwrywaidd yn y tŷ a’r stablau.

Morwyn yng Nghastell Penrhyn. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Ochr yn ochr â gwasanaethu'r teulu pan oeddent gartref, roedd y staff hefyd yn gorfod paratoi ar gyfer partïon mawreddog, ymweliadau brenhinol, a digwyddiadau estynedig fel helfeydd a gwyliau. Paratodd y staff yn arbennig ar gyfer arhosiad y Frenhines Fictoria yn 1830, ac eto yn yr 1850au, gan gynllunio'n fanwl y gwely y byddai'n cysgu ynddo, y safleoedd y byddai'n ymweld â nhw ar y stad a'r prydau bwyd y byddai’n eu bwyta. Yr oedd angen wythnosau o baratoi ar gyfer ymweliad Tywysog Cymru yn 1924 pan ddaeth am barti hwyrol mawreddog a'r Eisteddfod, lle cafodd ei urddo yng ngwisg yr Orsedd. Y tro hwn, roedd yn rhaid i’r gweision baratoi chwech ar hugain o ystafelloedd gwely a pharatodd y ceginau dros 1,150 o brydau ar gyfer dau gant o westeion. Cyflwynwyd pryd naw cwrs a phryd canol nos gyda danteithion a phwdinau i westeion, ynghyd ag adloniant a oedd yn cynnwys Côr Meibion y Penrhyn.

Gallwch weld llefydd cysgu’r gweision a’r morynion yng Nghastell Penrhyn hyd heddiw, megis Ystafell y Lamp, yr Ystafell Lestri, y Gegin, a Lolfa’r Cogydd. Mae’r llyfr Penrhyn’s Servant’s Quarters yn rhoi golwg fanwl ar fywyd gweision ym Mhenrhyn ac mae ar gael ar y safle neu drwy'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Offer pysgota a ddefnyddiwyd gan giper stad y Penrhyn. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Yn 2009, bu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyfweld ag Alice Evans, cyn-forwyn yng Nghastell Penrhyn, am ei phrofiad yn gweithio yno yn ferch ifanc. Manylodd Alice ar fywyd beunyddiol fel morwyn, gydag amser gweithio yn dechrau am 6 y bore, prydau’n cael eu paratoi drwy gydol yr wythnos, a rheolau gwisg llym y staff. Ewchi’r erthygl hon gan y BBC i weld y cyfweliad llawn.

Penrhyn fel Canolbwynt Grym

Paentiad o Gastell Penrhyn gan J. Newman & Co, tua 1865. Cyrchwyd trwy Wikimedia Commons, ar gael gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Er y partïon mawreddog a’r ymweliadau brenhinol, roedd Penrhyn yn wag am lawer o'r flwyddyn, gyda'r Pennantiaid yn byw yn Llundain neu'n byw yn eu tai eraill y rhan fwyaf o'r amser. Roedd y castell yn fwy o sylfaen grym i’r teulu, gyda’r Pennantiaid yn dewis aros yn eu stad yn Swydd Northampton yn amlach yn ystod tensiynau cynyddol y streic. Mwy am hynny ym mhennod pedwar.

Collodd Alan George Sholto Douglas-Pennant a’i ddau fab hynaf eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan adael yr ystâd i’w fab ieuengaf Hugh Napier ym 1927. Erbyn 1949, roedd llawer o’r tir wedi’i werthu, ac roedd angen cynnal a chadw’r ystâd. Etifeddodd nith Hugh, Janet Pelham y tŷ yn y pumdegau a cheisiodd fyw yn y castell am tua chwe mis. Ond heb gynnal a chadw a gwresogi priodol, roedd hi'n gweld y castell yn rhy fawr. Trosglwyddodd Jane y castell i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn fuan wedyn.

Tu Hwnt i'r Castell

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae straeon am fywydau’r rhai a oedd yn byw ac yn gweithio ar yr ystâd wedi bod yn cael eu harchwilio trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau hanes cyhoeddus. Yn 2018, cynhaliodd SYYC nifer o ddigwyddiadau o’r enw Tu Hwnt i’r Chwarel  lle gallai pobl o'r ardal leol rannu pethau cofiadwy, mynychu ymweliadau archifol, teithiau archaeolegol, a darlithoedd, a chymryd rhan mewn recordiadau hanes llafar am fywyd ar Stad y Penrhyn.

Tu Hwnt i’r Chwarel | Beyond the Quarry yn 2018 Diolch i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Daethpwyd ag arteffactau fel lluniau, gweithredoedd, adroddiadau, a ffotograffau i mewn yn ystod y diwrnod atgofion treftadaeth. I weld arteffactau a gasglwyd ar gyfer y digwyddiad, archwiliwch Gwefan Casgliad y Werin Cymru, sydd ag arteffactau digidol a gasglwyd o bob rhan o Gymru. I ddysgu mwy am y prosiect Tu Hwnt i’r Chwarel a digwyddiadau tebyg a gynhelir gan SYYC, ewch i wefan SYYC yma.

Mae arddangosion yn y gorffennol yng Nghastell Penrhyn wedi amlygu cysylltiad yr ystâd â chaethwasiaeth, ei ran yn y diwydiant llechi, a hanes y streiciau. Daeth Kayla â’r bennod i ben trwy siarad ag Ann Dolben am eitem yn 2018 lle creodd yr awdur Manon Steffan Ros ddeuddeg stori am orffennol, presennol a dyfodol y Penrhyn. Roedd y straeon yn archwilio rhai o elfennau mwy anodd hanes Penrhyn fel Streic y Penrhyn; rhagor am hyn ym mhennod pedwar. Roedd y straeon grymus yn ffordd wych o ddangos pa mor boenus oedd digwyddiadau’r streiciau i deuluoedd chwarelyddol lleol, perthnasedd i’r Streic hyd heddiw, a sut y gellir defnyddio Castell Penrhyn fel man myfyrio a thrafod ymhlith cenedlaethau gwahanol yng Nghymru, Jamaica, a thu hwnt.

I ddysgu mwy am yr arddangosfa, edrychwch yn ôl ar dudalen Penrhyn ar y digwyddiad ar wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.