Ystâd y Penrhyn a'r Diwydiant Llechi

Chwarelwr yn hollti llechi yn Amgueddfa Lechi Cymru. Tynnwyd y llun yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

Chwarelwr yn hollti llechi. Tynnwyd y llun yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

Ym mhennod pedwar, mae Kayla'n archwilio un o'r darnau pwysicaf o hanes Ystâd y Penrhyn ac un o’r rhai mwyaf dadleuol ar adegau: llechi. Roedd Chwarel y Penrhyn, y chwarel lechi fwyaf yn y byd ar un adeg, yn cyflogi miloedd o chwarelwyr ac yn dod â swyddi niferus i'r ardal. I lawer, nid swydd yn unig oedd gweithio yn y chwarel, roedd yn ffordd o fyw, ac yn grefft hynod fedrus a oedd yn cael ei mireinio drwy’ch bywyd. Er bod chwarela yn waith peryglus, roedd hefyd yn un a oedd yn creu cymuned a chyfeillgarwch ymhlith teuluoedd y chwareli.

I ddysgu mwy am arwyddocâd llechi i hanes, diwylliant, a thirwedd gogledd Cymru, bu Kayla yn siarad â Dr Dafydd Roberts, cyn Geidwad Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis. Ers hynny mae Dr Roberts wedi ymddeol ar ôl mwy na 40 mlynedd yn yr amgueddfa, gan roi’r gorau i’w rôl yn 2021. Bu’n siarad â Kayla am fywyd gwaith yn y chwareli yng ngogledd Cymru, yn ogystal â’r streiciau yn Chwarel y Penrhyn.

Model o chwarelwr yn gweithio yn Chwarel Dinorwig. Tynnwyd y llun yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

Mae Amgueddfa Lechi Cymru ar hen safle Chwarel Dinorwig, chwarel fawr arall yn yr ardal. Heddiw, mae’r amgueddfa’n dangos gwaith a diwylliant y chwarel, gan addysgu ymwelwyr am hanes y fasnach, a’r llechen fel deunydd. Mae'r amgueddfa'n cynnal arddangosiadau llechi, yn aml gan chwarelwyr sydd â chysylltiadau teuluol dwfn â'r ardal. Ewch i'r wefan i ddysgu mwy am Amgueddfa Lechi Cymru.

Hanes Llechi Gogledd Cymru

Mae chwarela ar raddfa fechan yn yr ardal yn mynd yn ôl bron i 2,000 o flynyddoedd i’r Rhufeiniaid, pan oedd llechi’n cael eu cloddio ar gyfer adeiladu caer ger Caernarfon. Defnyddiodd y Brenin Edward I lechi hefyd wrth adeiladu’r cestyll a gododd i atgyfnerthu ei goncwest ar draws gogledd Cymru. Fodd bynnag, ni ddaeth cloddio ar raddfa fawr fel yn Chwarel y Penrhyn tan y 18fed ganrif.

Ffens o lechi yng ngogledd Cymru. Diolch i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Yn y ddeunawfed ganrif, disgrifiodd ysgrifenwyr am deithiau fel Richard Warner a William Bingley y rhan fwyaf o ogledd Cymru fel gwlad 'wyllt', gyda chysylltiadau trafnidiaeth gwael a thir garw. O’r ddeunawfed ganrif, roedd Cymru’n gyrchfan boblogaidd ar gyfer teithio, gyda thwristiaid cynnar yn ysgrifennu am eu teithiau’n rheolaidd, gan roi sylwadau ar y dirwedd, ffermio, y diwylliant lleol, a datblygiadau cynnar yn y diwydiant llechi. Er mwyn archwilio rhai o'r adroddiadau a ysgrifennwyd gan deithwyr Ewropeaidd i Gymru, adnodd gwych yw'r Prosiect Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, prosiect tair blynedd a ariannwyd gan yr AHRC ym Mhrifysgol Bangor, a oedd yn edrych ar lyfrau teithio, arweinlyfrau, dyddiaduron, llythyrau, a blogiau a ysgrifennwyd gan deithwyr i Gymru.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd llechi Cymreig wedi dod yn adnabyddus fel deunydd toi hirhoedlog, gwydn a phoblogaidd ac roedd galw mawr amdanynt ledled y byd. Ym mhennod pump, byddwn yn archwilio sut yr enillodd arwyddocâd byd-eang llechi Cymru statws Treftadaeth y Byd UNESCO i dirweddau llechi Gwynedd.

Print lithograff o Chwarel Lechi Penrhyn ym 1852. Cyrchwyd trwy Wikimedia Commons, ar gael gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

O gynhyrchu 40,000 tunnell o lechi ym 1820 i 120,000 o dunelli o lechi erbyn diwedd y ganrif, roedd Chwarel y Penrhyn wedi tyfu’n gyflym i fod yn chwarel fwyaf yr ardal, gyda’r prif weithfeydd bron i filltir o hyd. Ymddangosodd chwareli llechi eraill yn Dinorwig, Blaenau Ffestiniog, a Berwyn yn yr ardal, gan wneud gogledd Cymru yn brif gynhyrchydd llechi ledled y byd ar y pryd.

Trwy ei hymchwil ar hanes y llechen Gymreig, daeth Kayla o hyd i lyfr Jean Lindsey North Wales Slate, hanes cynhwysfawr y diwydiant, gyda gwybodaeth fanwl am ehangu'r diwydiant llechi, y diwydiant rheilffordd cyfagos, a thwf y chwareli yn bensaernïol, yn economaidd, yn dechnegol, ac yn gymdeithasol.

Chwarelwyr y Penrhyn

Ffotograff o chwarelwyr a rheolwyr chwarel yn Chwarel y Penrhyn. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Yn anterth y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru, roedd Chwarel y Penrhyn yn cyflogi tua 3,000 o ddynion. Chwarel y Penrhyn oedd y chwarel oedd yn cynhyrchu fwyaf yn yr ardal, a olygai fod gan yr Arglwydd Penrhyn a’i asiantau reolaeth dros osod y prisiau ar gyfer llechi yn yr ardal yn ogystal â gosod y tâl i chwarelwyr, oriau gwaith, ac amodau’r safle.

Lle roedd chwarelwr yn gweithio yn y chwarel oedd yn pennu'r set sgiliau y byddai angen iddo ei datblygu, gan fod pob rôl yn arbenigo mewn un maes ar y tro. Roedd yna ddynion yn gweithio ar wyneb y graig, yn tynnu'r llechi o ochrau'r chwarel gyda ffrwydron, a cheibiau a rhawiau. Roedd yna holltwyr profiadol hefyd, a oedd yn fedrus wrth rannu'r llechen yn fesuriadau manwl gywir yn barod i'w hanfon allan. Isod mae enghraifft o'r meintiau hollti llechi sy'n cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Lechi.

Delweddau o chwarelwyr ar wahanol gamau o weithio gyda llechi. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Roedd y gwaith yn gorfforol feichus ac yn aml yn beryglus, gydag adroddiadau am ddynion yn disgyn o wyneb y graig neu'n colli bysedd wrth hollti'r llechen. Er gwaetha’r caledi hwn, roedd y chwarelwyr a’u teuluoedd yn byw bywydau a oedd yn aml yn llawn gweithgarwch diwylliannol. Tra’n cael seibiant yn y chwarel, byddai dynion yn ymgasglu  mewn cabanau am brydau ac egwyl lle byddent yn trafod gwleidyddiaeth, yn rhannu barddoniaeth ac yn canu – yn Gymraeg wrth gwrs. Byddai dynion yn ymarfer eu ceisiadau ar gyfer Eisteddfodau, gwyliau diwylliannol a gynhelir yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, gyda chystadlaethau cerdd, barddoniaeth a chrefftau eraill mewn traddodiad sy'n parhau hyd heddiw. I ddysgu mwy am draddodiad Eisteddfodol Cymru, edrychwch ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol.

I ddysgu mwy am fywyd chwarelwyr, mae Kayla yn argymell yn fawr y llyfr Chwarelwyr Gogledd Cymru ysgrifennwyd gan R. Merfyn Jones, a oedd yn Athro Hanes Cymru ac yn Is-ganghellor  Prifysgol Bangor. Mae’r llyfr yn ffynhonnell flaenllaw ar fywydau’r chwarelwyr, Streiciau’r Penrhyn, canlyniadau ac effaith y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru, a phwysigrwydd hanes unigryw cymunedau chwarelyddol Cymraeg y 18fed-20fed ganrif.

Tensiynau Cynyddol yn y Chwarel

Llun o blac Undeb Chwarelwyr Gogoleddd Cymru yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

Ffurfiwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn 1874 yn y gobaith o negodi gwell cyflog ac amodau gwaith. Pan welwyd trais yn y chwarel yn 1900, daeth yr Arglwydd Penrhyn â chyhuddiadau yn erbyn chwech ar hugain o ddynion a'u diswyddo cyn i'r digwyddiad fynd i'r llys. I brotestio am y diswyddiadau, ymgasglodd Chwarelwyr y Penrhyn i ddangos eu cefnogaeth i'r dynion a gyhuddwyd ac yna fe'u gwaharddwyd o'u gwaith am bythefnos. Arweiniodd tensiynau o'r digwyddiad hwn at ddod â grym milwrol i mewn. Roedd trafodaethau parhaus wedi bod yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng Arglwydd Penrhyn a'r Chwarelwyr ond ar Dachwedd 19, roedd 800 o ddynion heb gael cytundeb. Dri diwrnod yn ddiweddarach, gwrthododd 2,000 o chwarelwyr weithio, a thrwy hynny gychwyn y Streic Fawr, neu’r Cloi Allan o 1900-03: yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain.

Y Streiciau 'Mawr'

Bu Kayla yn siarad â Teleri Owen, myfyriwr Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd, a gynhaliodd brosiect ymchwil yn Amgueddfa Llandudno ar ran menywod yn y streiciau, yn ogystal â sut yr effeithiodd y streiciau ar gymunedau fel Bethesda. Mae Teleri yn argymell hanes C. Sheridan Jones am ei amser ym Methesda yn ystod y streiciau. Newyddiadurwr oedd Sheridan Jones adeg y streiciau, ac ymddangosodd darnau o'i lyfr What I Saw at Bethesda yn y Daily News ac yn yr Echo, gan wneud y streiciau yn ddigwyddiadau adnabyddus ledled y DU.

Pamffled a ysgrifenwyd gan Lywydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, William J. Parry. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Soniodd Jones am newyn eang ym Methesda, gyda phantris gweigion y teuluoedd  ac ystafelloedd ffrynt moel wedi iddynt werthu cyn lleied o ddodrefn oedd ganddynt. Soniodd hefyd am aflonyddwch yn ystod y streiciau, gyda phresenoldeb heddluoedd mewn cymunedau yn destun cynnen arbennig. Cynigiwyd codiad cyflog o 5% i'r rhai a aeth yn ôl i'r gwaith. Byddai'r rhai oedd yn dal i fod ar streic yn chwalu cartrefi'r rhai a dorrodd y streic i ddychwelyd i'w gwaith, a bu'n rhaid i rai chwarelwyr gael eu hebrwng gan yr heddlu i'r chwarel i'w hamddiffyn. Dychwelodd pedwar cant o ddynion i weithio, a wanhaodd yr ymdrech i streicio ac achosi rhwyg pellach mewn cymunedau.

Poster o Hysbysiad yn Chwarel y Penrhyn a gyhoeddwyd gan Reolwr Chwarel y Penrhyn EA Young yn y Gymraeg a'r Saesneg. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor.

Rhanwyd chwarelwyr yn streicwyr a chynffonwyr ('cydweithredwyr')—y rhai a aeth yn ôl i'r gwaith. Argraffwyd y geiriau ‘Nid Oes Bradwr yn y Ty Hwn’  i streicwyr eu harddangos yn eu ffenestri i ddangos nad oeddent wedi rhoi'r gorau i'r streic. Effeithiodd y digwyddiadau ar bobl yn gorfforol yn ogystal ag yn feddyliol, y rhai ar y ddwy ochr i’r streic, fel y dangosir yn ysgrifau Jones am newyn, salwch, ac, weithiau, hunanladdiad i’r rhai a dorrodd y streic. Hyd yn oed i'r rhai a adawodd i ddod o hyd i waith yn rhywle arall, roedd addasu i fywyd newydd yn anodd i lawer.

Arwyddion 'Nid Oes Bradwr yn y Ty Hwn') a osodwyd yn ffenestri cartrefi chwarelwyr. Wedi'i gael o Wikimedia Commons.

Codwyd arian mewn digwyddiadau megis gwyliau a pherfformiadau corawl ar gyfer teuluoedd y chwarelwyr ar draws y DU, wrth i gymunedau diwydiannol eraill gydymdeimlo â thrafferthion y chwarelwyr. Bu merched yn rhan annatod o’r ymdrech, gan gynnal perfformiadau theatr a chorawl yng ngogledd Cymru yn ogystal ag ymhellach i ffwrdd. Perfformiodd Côr Merched Cymreig y Penrhyn yn Llundain yn 1901 ac ym Mryste ym 1903, lle codwyd dros £3,000 at y streic.

Mae’r arddangosfa Merched Chwarel, a grëwyd fel rhan o brosiect am fenywod a’r diwydiant llechi, yn adnodd gwych ar gyfer deall rôl hanfodol menywod mewn cymunedau chwarelyddol a’u hymdrechion yn ystod y streiciau. Roedd y prosiect, a oedd yn rhedeg o 2018 i 2019 yn arddangosfa deithiol a gafodd sylw yn Amgueddfa Storiel, Bangor, Amgueddfa Lechi Cymru, Castell Penrhyn, Llyfrgell Blaenau Ffestiniog a Cheudyllau Llechi Llechwedd. Bu’r artistiaid lleol Marged Pendrell, Jwls Williams, Lisa Hudson a Lindsey Colbourne yn cydweithio ar y prosiect, gan gael ysbrydoliaeth o chwareli gogledd Cymru lle maent yn byw ac yn gweithio. Roedd y prosiect yn cyfuno elfennau ffisegol llechi, eitemau cartref gan deuluoedd chwarelyddol a gwaith celf gwreiddiol gan yr artistiaid. Mae gan eu gwefan straeon am fenywod mewn cymunedau chwarelyddol, lluniau o'u harddangosfeydd yn y gorffennol ac artistiaid modern a weithiodd ar osodiadau a ysbrydolwyd gan fenywod yn y gymuned.

Y Chwarel Heddiw

Chwarel y Penrhyn ym Methesda, gogledd Cymru. Tynnwyd y llun gan Mike Hudson trwy Wikimedia Commons.

Er nad gogledd Cymru yw’r prif gynhyrchydd llechi bellach, mae llechi’n dal i gael eu cloddio o dirwedd Cymru a’u hallforio ledled y byd. Yn Chwarel y Penrhyn, mae tua 200 o ddynion a merched yn gweithio yn y chwarel. Heddiw, mae llawer o'r llechi yn dal i gael eu cynhyrchu ar gyfer toi a deunyddiau adeiladu eraill, ond fe'u defnyddir hefyd fel anrhegion moethus ac addurniadau megis byrddau gweini, arwyddion tai, raciau gwin a mwy.

Mae ardaloedd chwarelyddol amlwg yn edrych yn wahanol erbyn hyn i’r hyn oeddent ar ddiwedd y 19eg ganrif, ond nid yw effaith a hanes y diwydiant wedi pylu. Ym Methesda, cedwir cof y diwydiant llechi yn fyw trwy berfformiadau, arddangosion, cerddoriaeth, a gwaith celf, gyda nifer o ddigwyddiadau’r gorffennol yn amlygu dylanwad y diwydiant llechi yn yr ardal. Er y gall atgofion o'r streiciau fod yn boenus, mae trafodaethau, cydweithio ac addysg am y diwydiant wedi gwneud i lawer sydd â hynafiaid yn yr ardal ddysgu mwy am y diwydiant llechi.

Isod mae murlun a beintiwyd yn 2021 ym Methesda, sy’n dangos rhai o’r pwyntiau allweddol yn hanes y pentref, gan gynnwys y streiciau a’r ymdrechion corawl yn ystod y cyfnod. Crëwyd y llun gan yr artist Darren Evans ac fe’i hariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol fel rhan o Gais Treftadaeth y Byd UNESCO llwyddiannus.

Murlun wedi ei baentio ym Methesda gan Darren Evans, a ariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Gallwch grwydro'r chwarel eich hun trwy daith hunan-dywys, o'r enw “Slate and Strikes'' gyda chyfres o Codau QR trwy historypoints.org. Roedd y prosiect yn nodi 120 mlynedd ers y streiciau yn 2020, a gosodwyd 19 plac o amgylch yr ardal gyda phytiau am stori'r streiciau.

Yn ein pennod olaf, byddwn yn archwilio llwyddiant y cais ac ystâd y Penrhyn heddiw, o’r chwarel, y castell, a’r gymuned wrth i ni gloi stori Podlediad Penrhyn.