Effaith Ryngwladol Stad y Penrhyn

Croeso i’r bennod olaf o Podlediad Penrhyn. Yn y bennod hon, mae Kayla yn ystyried dyfodol ystâd y Penrhyn, sut mae wedi esblygu ar draws yr 21ain ganrif, a sut mae ei heffaith yn y diwydiant llechi wedi cyrraedd rhannau eraill o’r byd.

Yn gyntaf, mae Kayla yn siarad â Dr Robert Llewelyn Tyler, darlithydd ym Mhrifysgol Khalifa y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar fewnfudo o Gymru i bob cwr o’r byd. Mae'n siarad â Kayla am deuluoedd Cymreig o gymunedau chwarelyddol fel Gwynedd yn mewnfudo i daleithiau fel Pennsylvania ac Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.

Trwy ei waith ymchwil, canfu Dr Tyler y byddai pobl oedd wedi mewnfudo o lefydd fel Bethesda, Blaenau Ffestiniog a Bangor yn sefydlu cymunedau Cymraeg newydd yn yr Unol Daleithiau gyda'u heglwysi, siopau, digwyddiadau, a’u cymdeithasau eu hunain. Daeth Dr Tyler o hyd i ddogfennau yn y cymunedau hyn am ddigwyddiadau fel Eisteddfodau, cystadlaethau barddoniaeth a dathliadau Dydd Gŵyl Dewi o ddiwedd y 19eg ganrif i ddechrau'r 20fed ganrif.

Sefydlwyd cymunedau fel Bangor, Pennsylvania gan deuluoedd chwarelyddol o ogledd Cymru, a fewnfudodd yn ystod cyfnodau’r streic yn Chwarel y Penrhyn. Sefydlwyd Bangor gan Robert M. Jones, a ymfudodd o Fangor yng Nghymru a helpu i dyfu’r diwydiant llechi yn yr ardal. Codwyd cerflun er anrhydedd iddo yn yr ardal ac mae'n dal i sefyll heddiw.

Cofeb Robert M. Jones ym Mangor, Pennsylvania. Ffotograffydd William Fischer, Jr trwy’r Historical Marker Database.

Roedd gan Gymry America eu papurau newydd Cymraeg eu hunain, fel Y Drych a sefydlwyd yn 1851 hyd nes yr unodd â Ninnau, sy'n dal i gael ei gyhoeddi heddiw. Byddai papurau newydd yn adrodd ar ddigwyddiadau lleol mewn cymunedau Cymreig fel Eisteddfodau lleol, a chystadlaethau eraill, ac maent yn gofnodion gwych o ba mor gryf oedd y cymunedau chwarelyddol yn UDA ar y pryd. Os hoffech archwilio hen rifynnau o’r Drych, edrychwch ar y llyfrgell ar-lein yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ewch i'w gwefan i ddarllen y papur newydd cyfredol, o'r enw Ninnau.

Er bod y defnydd o’r Gymraeg yn UDA wedi pylu dros amser, erys llawer o draddodiadau yn yr hen gymunedau llechi hyn. Mae gwyliau, corau a chymdeithasau Dewi Sant yn dal yn gryf, gyda disgynyddion o deuluoedd chwarelyddol o ogledd Cymru yn chwarae rhan weithredol mewn cadw traddodiadau Cymreig yn fyw. Amgueddfa a chymdeithas hanesyddol yw’r Slate Belt Heritage Cente ym Mangor, Pennsylvania, sy'n talu teyrnged i'r cymunedau chwarelyddol a ymfudodd. Mae ganddynt a Arddangosfa Gymreig yn yr amgueddfa ac maent yn cynnal sgyrsiau a digwyddiadau am Gymry’r ardal.

Lluniodd Prifysgol Pennsylvania brosiect ymchwil helaeth ar y diwydiant llechi yn yr ardal, ar hanes y teuluoedd chwarelyddol, daeareg y safleoedd a threftadaeth ddiwydiannol yr ardal. I ddysgu mwy am y prosiect, ewch i wefan The Slate Belt.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am fewnfudo o Gymru i'r Unol Daleithiau, mae Dr Tyler yn awgrymu llyfrau fel Americans from Wales gan Edward G. Hartmann, sy'n croniclo mewnfudo Cymreig i'r Unol Daleithiau ers y Chwyldro Americanaidd. Mae hefyd yn awgrymu Cymry America, gan R. D. Thomas yn 1872, sy'n manylu ar ei brofiad o deithio o amgylch cymunedau Cymreig yn yr Unol Daleithiau.

Etifeddiaeth Côr y Penrhyn yng Nghymru Heddiw

Ymarfer Côr y Penrhyn ym Methesda, gogledd Cymru.

Yn ôl yng ngogledd Cymru, aeth Kayla i sesiwn ymarfer gyda Chôr y Penrhyn yn Neuadd Ogwen ym Methesda. Ym mhennod pedwar, roedd Kayla yn archwilio  hanes y côr, ei wreiddiau yn Chwarel y Penrhyn a’i rôl yn y Streic Fawr. Ar gyfer pennod pump, siaradodd Kayla â dau o aelodau presennol y côr a'u profiad yn canu yn y grŵp. Mae Elfed Bullock, oedd yn wyth deg dau adeg y cyfweliad, wedi bod yn y côr ers dros 50 mlynedd. Disgrifiodd ei hoff berfformiad, cân o’r enw “The Creation” a berfformiwyd yng Nghanolfan Ddiwylliannol Chicago yn 2006. Isod mae fideo o'r perfformiad hwnnw.

Bu Kayla hefyd yn siarad â Rheinallt Davies, un o aelodau ieuengaf y côr. Mae'n siarad am eu perfformiadau rhyngwladol niferus, yn ogystal â'u cydweithrediadau nodedig, megis perfformio yn Glastonbury gyda Supergroup Damon Albarn yn 2017. Isod mae fideo o'r perfformiad hwnnw.

Mae gan Gôr y Penrhyn ddau albwm, un ohonynt wedi ei recordio yng Nghastell Penrhyn, gyda rhai caneuon yn cael eu perfformio yn Chwarel y Penrhyn. Drwy gydol cyfnod cloi’r coronafeirws (COVID-19), mae’r côr hefyd wedi cynnal perfformiadau rhithwir sydd wedi cael eu gwylio ledled y byd. Isod mae fideo o'u dehongliad pwerus o Mor Fawr Wyt Ti, wedi ei ffilmio yn Eryri. I wrando ar eu cerddoriaeth neu edrych ar eu perfformiadau sydd i ddod, ewch i wefan Côr y Penrhyn.

Cais Treftadaeth y Byd UNESCO a Dyfodol Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

O dir yn cael ei werthu neu ei roi i Barciau Cenedlaethol Eryri, i rannau o’r chwarel sydd bellach yn rhan o barciau antur, ac adeiladau a ffermydd sy’n gysylltiedig â’r stad wedi eu trawsnewid yn fusnesau a chartrefi lleol, mae llawer wedi newid ar Stad y Penrhyn ers iddi fod yn nwylo Arglwyddi Penrhyn. Er gwaetha’r newidiadau hyn, mae dylanwad y diwydiant llechi yn dal yn gryf yng ngogledd Cymru, a brofwyd gan gais diweddar am safle Treftadaeth y Byd UNESCO a lwyddodd ym mis Gorffennaf 2021. Siaradodd Kayla â Dr David Gwyn am y cais treftadaeth byd sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Mae UNESCO yn sefyll dros Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig, ac mae'n gorfforaeth ryngwladol sy'n rhoi statws gwarchodedig ac arbenigol i safleoedd ar draws y byd gyda chyllid ar gyfer cadwraeth ac addysg. Rhai o'r safleoedd mwyaf nodedig yw'r Taj Mahal, Wal Fawr Tsieina, a'r Pyramidiau. Gyda rhestr llym o feini prawf, gall y broses o wneud y cais i dderbyn y statws gymryd blynyddoedd. Cafodd y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru ei ddewis i ddechrau allan o restr o 41 o geisiadau gan y DU. Ar adeg y cyfweliad gyda Dr Gwyn, roedd un ar ddeg o geisiadau yn dal i fod yn cystadlu, flwyddyn cyn y cyhoeddiad terfynol.

Ffotograff o Eryri, rhan o dirwedd llechi Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yng ngogledd Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2021, derbyniodd gogledd Cymru Statws Treftadaeth y Byd UNESCO. Mae Dr Gwyn yn gobeithio y gall y gydnabyddiaeth hon helpu i dynnu sylw at y diwydiant llechi ac y gall pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd ddysgu amdano wrth grwydro’r ardal. I ddysgu mwy am statws treftadaeth y byd a'r cais, edrychwch ar y wefan Wales Slate.

Daeth Kayla â’r bennod olaf i ben gyda chyfweliad â Sean Taylor, cyfarwyddwr a sylfaenydd Zip World, sef parc antur yng ngogledd Cymru, wedi’i leoli’n rhannol yn Chwarel y Penrhyn. Mae gan Zip World y llinell sip hiraf yn Ewrop ac mae dros filiwn o ymwelwyr wedi ymweld â'r atyniad. Siaradodd Sean â Kayla am ddechreuad Zip World, sut y dechreuodd gyda gweledigaeth o gael pobl yn hedfan i lawr y chwarel a phrofi’r dirwedd o uwchben y ddaear. Gyda’r profiadau a gynigir gan Zip World fel y Teithiau Chwarel, mae Sean yn gobeithio y bydd pobl yn dysgu mwy am hanes y diwydiant llechi a’i arwyddocâd mewn twristiaeth heddiw.

Diolch am wrando!

Diolch i Bawb a gymerodd ran yn Podlediad Penrhyn

Hoffai Kayla gymryd y cyfle i ddiolch i’r holl rai a gyfwelwyd a gyfrannodd eu hamser, eu harbenigedd, a’u straeon personol i’r prosiect digidol hwn. Diolch i Gwmni’r Brethynwyr am noddi’r prosiect PhD hwn. Diolch yn arbennig i oruchwylwyr Kayla, yr Athro Andrew Edwards, Dr Shaun Evans a Dr Steffan Thomas am eu harweiniad a’u hanogaeth drwy gydol creu’r podlediad. Diolch i Joshua Glendenning am ddarparu'r gerddoriaeth ac effeithiau sain ar gyfer y podlediad, a Bethan Scorey am y gwaith celf gwreiddiol. Mae'r prosiect hwn yn rhan o'r ymchwil a wnaed yn Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor. Ymwelwch â Gwefan SYYC i ddysgu mwy am y prosiect hwn ac eraill yn SYYC.