Croeso i Podlediad Penrhyn, podlediad pum rhan am hanes ystâd y Penrhyn yng ngogledd orllewin Cymru.

Peintiad o Gastell Penrhyn. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Plasty gwledig yng Ngwynedd yw Castell Penrhyn sydd bellach yn atyniad mawr i ymwelwyr, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Arferai eistedd wrth galon stad helaeth o dir yn ymestyn ar draws rhannau o ogledd orllewin Cymru. Bydd eich gwesteiwr, yr ymchwilydd PhD Kayla Jones, yn eich tywys trwy wahanol agweddau ar stori’r ystâd, o’i hanes canoloesol, ei chysylltiadau â chaethwasiaeth a’i rôl yn y diwydiant llechi byd-eang i feddwl am Penrhyn heddiw, ei le yng ngogledd Cymru, a’i statws fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Kayla Jones, gwesteiwr Podlediad Penrhyn ac ymchwilydd PhD gyda Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym Mhrifysgol Bangor.

Gallwch ddysgu mwy am ymchwil Kayla trwy wefan Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru Prifysgol Bangor: Podlediad Penrhyn

I lawer, mae Stad y Penrhyn yn gyfystyr â’r diwydiant llechi yng Ngwynedd neu gaethwasiaeth yn Jamaica, a gall y ddau ohonynt fod yn bynciau heriol i’w harchwilio heddiw. Er bod caethwasiaeth a llechi yn ganolog i hanes Penrhyn nid dyma'r unig agweddau ar ei stori. Defnyddiodd perchnogion canoloesol Penrhyn, y teulu Gruffydd, eu cysylltiadau Cymreig a Seisnig i ymestyn eu dylanwad yng ngogledd Cymru ac roeddent yn un o dirfeddianwyr amlycaf yr ardal. Gyda hanesion am gynghreiriau priodasol pwerus, herio ewyllysiau a hyd yn oed cyrchoedd a môr-ladrad, roedd perchnogion cynnar Penrhyn ymhell o fod yn ddiflas.

Er mai ychydig o dystiolaeth bendant sydd gennym o etifeddiaeth y teulu Gruffydd yng Nghastell Penrhyn heddiw, mae archifau, barddoniaeth, a chofnodion cyfreithiol a gedwir yn Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn rhoi cipolwg diddorol i ni o hunaniaeth a dylanwad y teulu canoloesol yn yr ardal. Bu Kayla’n siarad â’r hanesydd Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (SYYC) ym Mhrifysgol Bangor, am berchnogion cynnar y stad.

I ddysgu mwy am ymchwil SYYC a'u digwyddiadau, ewch i'w gwefan.

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n ddiddorol iawn pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am hanes Penrhyn, byddan nhw’n sôn am blanhigfeydd y teulu Pennant yn Jamaica a’u rhan nhw â chaethwasiaeth ar draws yr Iwerydd, neu fe fyddan nhw’n sôn am chwarel lechi’r Penrhyn ym Methesda a streic fawr 1900-03, sydd ill dau, wrth gwrs, yn rhannau gwirioneddol bwysig o hanes lleol a Chymru. Ond os soniwch chi am Penrhyn wrth un o haneswyr Cymru’r Oesoedd Canol, maen nhw’n debygol o feddwl yn syth am y teulu Gruffydd.”
— Dr Shaun Evans

Strwythur canoloesol a oedd arfer sefyll ar stad y Penrhyn. Cyrchwyd trwy Wikimedia Commons, ar gael gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Pwy oedd y teulu Gruffydd?

Roedd teulu'r Gruffydd, neu'r Griffiths, yn deulu bonheddig oedd yn ddisgynyddion i ŵr o'r enw Ednyfed Fychan, a oedd yn stiward nodedig i Lywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr), Brenin Gwynedd, ac a fu yn y diwedd yn rheoli Cymru ar ddechrau’r 1200au. Erbyn 1282, fodd bynnag, roedd Edward I o Loegr wedi concro Teyrnas Gwynedd. Er nad oedd Tywysogion Gwynedd yn llywodraethu yn Nghymru mwyach, daeth dosbarth o deuluoedd boneddigion Cymreig, neu uchelwyr, i'r amlwg i ymgymryd ag arweinyddiaeth leol yn eu cymunedau. Teulu Gruffydd o'r Penrhyn oedd un o'r enghreifftiau mwyaf pwerus o'r teuluoedd hyn.

Daeth y teulu Gruffydd i feddiant ar dir ar draws Ynys Môn a Sir Gaernarfon, gan adeiladu stad y Penrhyn rhwng y 1300au a’r 1600au. Roedd llinach yn nodwedd allweddol yn statws y teulu Gruffydd. Estynnodd Gwilym ap Gruffydd ei ddylanwad trwy briodas â Morfudd a daeth hynny â thiroedd sylweddol i'w feddiant ar draws Môn a Sir Gaernarfon.

Papurau’r  teulu Gruffydd, rhan o Bapurau Castell Penrhyn o 1340–1627. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Er iddo golli ei dir oherwydd ei ymwneud â Gwrthryfel Glyndŵr yn 1400 a 1415, yn y diwedd cafodd Gwilym ap Gruffydd bardwn am ei ran yn y gwrthryfel, a llwyddodd i brynu ei dir yn ôl, yn ogystal â thir y ‘gwrthryfelwyr’ cyfagos. Trodd hyn Gwilym yn dirfeddiannwr o bwys, ac yn arweinydd dylanwadol yng ngogledd Cymru.

Gydag ail briodas Gwilym â Joan Stanley, merch siryf amlwg o sir Gaer, sefydlwyd cysylltiadau Seisnig cryf i'r teulu Gruffydd, mewn cyfnod pan na allai'r Cymry fel arfer ddal swydd ar ôl gorfodi'r deddfau cosbi. Apeliodd Gwilym a'i fab i lysoedd Lloegr ynghylch eu teyrngarwch i Goron Lloegr, a chaniatawyd breintiau penodol iddyn nhw gan gynnwys y statws a'r awdurdod a oedd yn gysylltiedig â swydd Siambrlen gogledd Cymru.

Achos Llys a oedd yn edrych yn debyg iawn i fywyd Harri’r Wythfed…

Pan fu farw Gwilym II yn 1531, gadawodd y stad i'w fab Edward Griffith, a gafodd dair merch ond dim etifedd gwrywaidd. Bu mwy na degawd o anghydfod rhwng ei ferched a'i frawd ynghylch etifeddiaeth ei stad, a arweiniodd at frwydr chwyrn yn y llys a hyd yn oed cyrch ar y Penrhyn.

Bu Kayla’n siarad â Dr Gwilym Owen - Uwch Ddarlithydd mewn Cyfraith Eiddo ym Mhrifysgol Bangor - am ei ymchwil i'r anghydfod yn ymwneud ag etifeddiaeth y Penrhyn. Trwy flynyddoedd o waith ymchwil, darluniodd Gwilym gymhlethdod yr achos, a oedd yn canolbwyntio ar natur tair priodas Edward.

Roedd Edward yn cadw i fynd rhwng dwy o'i wragedd, Agnes, a Jane Puleston. Yn wreiddiol, priododd Edward ddwy chwaer yn olynol, Jane, a fu farw yn fuan ar ôl priodi, ac Agnes. Ar ôl hyn, mae'n amlwg bod Edward wedi priodi merch o'r enw Jane Puleston, a oedd yn llawer mwy at ddant ei dad. Nid oedd ei dad Gwilym yn cymeradwyo ei briodas ag Agnes ac anogodd Edward i briodi Jane Puleston yn lle hynny, mae'n debyg oherwydd ei chysylltiadau ariannol.

Canfu Dr Owen fod Edward yn parhau i newid ei feddwl rhwng ei ddwy wraig, a oedd yn gwneud ei etifeddiaeth yn gymhleth. Yn y diwedd cafodd dair merch gyda Jane Puleston, a honnodd yn y diwedd fod ganddynt hawl i'w stad. Fodd bynnag, dadleuodd ei frawd Rhys mai ei briodas â’i wraig gyntaf, Agnes, oedd yr unig un a oedd yn gyfreithlon, gan olygu felly mai Rhys oedd unig etifedd stad y Penrhyn. Er i Edward briodi Agnes yn ei arddegau, a bod sôn nad oedd y briodas wedi'i chyflawni, roedd yn anodd dweud a oedd ei briodas yn un ddwywreigiog (bigamous) ai peidio.

Sêl fawr o'r gweithredoedd sy'n gysylltiedig â'r teulu Gruffydd. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Un o'r rhannau mwyaf diddorol o ymchwil Dr Owen oedd y cysylltiad a ganfu rhwng sefyllfa Edward a'i ddwy wraig a sefyllfa Harri VIII, yr oedd ei briodas yn cael ei phrofi yn y llysoedd ar yr un pryd ag un Edward. Ar y pryd, roedd cymariaethau'n cael eu gwneud rhwng sefyllfa briodasol Edward a sefyllfa Harri VIII, gan fod y brenin yn herio ei briodas â Catherine o Aragon, a oedd wedi priodi ei frawd Arthur yn wreiddiol cyn ei farwolaeth yn 1502. Ar sail sefyllfa Harri VIII, holodd Edward o'r Penrhyn ai ei briodas ag Agnes oedd yr un ddwywreigiog oherwydd ei briodas gynharach â'i chwaer Jane, neu a oedd ei briodas â Jane Puleston yn un ddwywreigiog, oherwydd ei fod yn dal yn briod ag Agnes. Roedd hyn yn codi amheuaeth a oedd ei dair merch gyda Jane Puleston yn gyfreithlon ai peidio, yn union fel Mari Tudur (Mari I yn y diwedd) a gafodd ei dad-gyfreithloni yn wreiddiol gan ei thad ym 1533 pan briododd Anne Boleyn.

Waeth beth fo'r achos cyfreithiol, nid oedd tad Jane Puleston, John Puleston, yn fodlon rhoi'r gorau i'r frwydr dros etifeddiaeth ei wyresau. Ar ôl i Edward farw yng Nghastell Dulyn, ymosododd John Puleston ar y Penrhyn gyda milwyr yn cario gynnau a bwâu, i geisio dod o hyd i ddogfen yr honnai Rhys ei bod yn profi mai ef oedd perchennog cyfiawn y stad. Cafodd hyn ei gofnodi mewn deiseb i'r Brenin a ysgrifennwyd gan Rhys, a gwynodd am dresmasu anghyfreithlon John Puleston ar yr hyn yr oedd yn honni oedd ei ystâd ef. Cedwir y rhain a llawer o lythyrau eraill ar y Penrhyn yn Archifau Prifysgol Bangor, fel rhan o Casgliad y Penrhyn, y gellir eu harchwilio ar-lein neu drwy ymweld â'r archifau.

Wedi blynyddoedd o ymgyfreitha, cytunodd y ddwy ochr i rannu'r ystâd rhwng merched Edward a'i frodyr. Ysgrifennodd Dr Owen lyfr am ei ganfyddiadau o'r enw At Variance: The Penrhyn Entail, ewch i edrych yma i ddysgu mwy.

Perchennog Môr-leidr Penrhyn

Yn y diwedd, trosglwyddwyd Penrhyn i lawr i fab Rhys, Piers (neu Pyrs) Griffiths, yr oedd ei fywyd hyd yn oed yn fwy cyffrous na bywyd ei dad. Roedd Piers yn byw rhwng 1568-1628 ac ers hynny daeth yn enwog fel môr-leidr. Ceir hanesion am Piers yn cymryd rhan mewn cyrchoedd ar y moroedd mawr ochr yn ochr â Syr Francis Drake a Syr Walter Raleigh. Yn ôl y chwedl, adeiladodd Piers dwnnel cyfrinachol rhwng Porth Penrhyn a'r hen dŷ ym Mhenrhyn. Mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n cael ei ysgrifennu am Piers yn cael ei ystyried yn ffuglen, fodd bynnag, yr hyn a wyddys amdano yw ei fod yn sicr yn ymddwyn fel môr-leidr yn ariannol! Wedi blynyddoedd o adeiladu stad y Penrhyn gan ei hynafiaid, camreoli ei etifeddiaeth wnaeth Pyrs, gan forgeisio'n araf oddi ar y stad hyd at 1621 pan werthwyd Penrhyn i John Williams.

Indentur a roddwyd i Piers Griffith o'r Penrhyn, rhan o Bapurau Castell Penrhyn o 1340–1627. Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor

Cododd John Williams, oedd yn wreiddiol o Gonwy, i fod yn ffigwr adnabyddus yn ystod teyrnasiad Iago I, gan ddal nifer o swyddi yn cynnwys Caplan y Brenin yn 1617, Esgob Lincoln, Arglwydd Ceidwad y Sêl Fawr, ac Archesgob Efrog. Bu John Williams farw yn 1650 a chladdwyd ef yn Eglwys Llandygai, lle mae cofgolofn fawreddog wedi ei chodi er cof amdano. Bu farw heb blant a throsglwyddodd y stad i'w nai Griffith Williams. Ymhen amser, trosglwyddwyd rhan o'r ystâd i Anne Susanna Warburton gan nad oedd etifeddion gwrywaidd i etifeddu'r ystâd. Priododd Anne Susanna â Richard Pennant a dyfodd y stad yn y 18fed ganrif. Byddwn yn edrych ar deulu’r Pennant yn y ddwy bennod nesaf.

Barddoniaeth Gymraeg yng Nghastell y Penrhyn

Bu Kayla hefyd yn siarad â’r Athro Ann Parry Owen, o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar lenyddiaeth, iaith, a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Roedd rhan bwysig o fywyd diwylliannol y teuluoedd bonedd Cymreig yn ymwneud â noddi canu mawl a oedd yn canolbwyntio ar statws a hunaniaeth y teulu. Un o'r llu beirdd a groesawyd i'r Penrhyn oedd y bardd amlwg Guto'r Glyn, a ganai am linach Gymreig drawiadol y teulu, eu rhinweddau bonheddig, eu priodasau a'u plant a'u croeso. Mae canu mawl yn rhoi cipolwg cyfoethog ar fywydau uchelwyr Cymru, megis y mathau o fwyd yr oeddent yn ei fwyta, y dillad a wisgent, a’u rolau a’u cyfrifoldebau yn y gymdeithas Gymreig.

Yn y podlediad, mae Kayla yn chwarae rhan o gerdd a gyfansoddwyd gan Guto'r Glyn am deulu Gruffydd o Gochwillan, perthnasau teulu Gruffydd Penrhyn, oedd yn byw mewn plasty cyfagos. Cynhyrchwyd y recordiad hwn fel rhan o brosiect ymchwil a gyfarwyddwyd gan yr Athro Owen o'r enw Prosiect Guto'r Glyn a oedd yn cynnwys gwefan a grëwyd am fywyd a cherddi Guto'r Glyn. Mae gan y wefan lu o adnoddau am fywyd yng Nghymru’r oesoedd canol, fel y gwelir ym marddoniaeth Guto, yn amrywio o feddygaeth ac amaethyddiaeth i grefydd a rhyfel. Gallwch hefyd ddarllen cerddi Guto gyda nodiadau esboniadol Cymraeg neu Saesneg, ac am fywydau ei noddwyr, fel y Griffiths. Ewch i Cymru Guto i weld mwy.

Dyma bwt o farddoniaeth Guto'r Glyn am deulu Griffiths Cochwillan:

Ble gallwch chi ddarganfod mwy am hanes canoloesol y Penrhyn?

Mae Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor yn gartref i gasgliad mawr o gofnodion hanesyddol a grëwyd gan neu sy'n gysylltiedig â theuluoedd Gruffydd a Williams o'r Penrhyn; gallwch chi archwilio'r casgliad ar-lein neu ymweld â'r Brifysgol i ymchwilio i'r archif. Os ydych chi eisiau gwneud ychydig o ymchwilio corfforol, mae Eglwys Sant Tegai yn Llandygai, sydd wedi'i lleoli ger y brif fynedfa gyhoeddus i Gastell Penrhyn, yn cynnwys nifer o henebion, placiau, a chryptau sy'n gysylltiedig â hanes canoloesol Penrhyn. Mae William Griffith a’i wraig wedi eu claddu yn Sant Tegai, ac mae cofgolofn a beddrod alabastr i John Williams yn yr eglwys hefyd. I ddysgu mwy am yr eglwys, cliciwch yma.

Cofeb i John Williams yn Eglwys Sant Tegai yn Llandygai. Diolch i Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru

Mae’r Athro Ann Parry Owen yn awgrymu mai ffordd wych o ddysgu mwy am ganu mawl Cymraeg yw ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru neu archwilio eu casgliad digidol ar-lein. Mae'r casgliad hwn yn cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Taliesin, sy'n enghreifftiau o'r fersiynau cynharaf o ryddiaith Gymraeg a'r iaith Gymraeg.

Mae’r Athro yn argymell y rhestr isod a fydd yn rhoi mwy o fanylion i chi am hanes canoloesol Cymru:

A.D. Carr, ‘Gwilym ap Gruffydd and the rise of the Penrhyn estate’, Cylchgrawn Hanes Cymru 15, 1 (1990), ar gael ar-lein yma: https://datasyllwr.llgc.org.uk/journals/pdf/AWJAJ016002.pdf

AD Carr, The Gentry of North Wales in the Later Middle Ages (Caerdydd, 2017)

D.J. Bowen, 'Y Canu i Gwilym ap Gruffudd o'r Penrhyn a'i fab Gwilym Fychan', Dwned 8 (2002)

D. Johnston, Llên yr Uchelwyr: Hanes Beirniadol Llenyddiaeth Gymraeg 1300-1525 (Caerdydd, 2014)

R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales, 1063–1415 (Oxford, 2000)